Skip To The Main Content

Dathlu Cymraeg Byd Busnes – cefnogi mwy na 2,000 o fusnesau bach

Yn ystod 2 flynedd gyntaf y prosiect Cymraeg Byd Busnes cysylltwyd gyda mwy na 2,000 o fusnesau gan swyddogion y prosiect, a derbyniodd 346 o fusnesau gefnogaeth agos. 

Mae dros 270 o fusnesau wedi manteisio ar y gwasanaeth cyfieithu rhad ac am ddim. Ers i'r prosiect gychwyn mae mwy o fwydlenni dwyieithog ar gael, mae mwy o wefannau ac arwyddion busnesau yn ddwyieithog ac mae mwy o staff busnesau bach yn dangos eu bod nhw’n siarad, neu yn dysgu, Cymraeg. 

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol :
“Dwi’n falch iawn o’r gwaith sydd wedi digwydd yn nwy flynedd cyntaf Cymraeg Byd Busnes. Mae’r rhwydwaith wedi gwneud gwaith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gyda mwy na 2,000 o fusnesau. Mae’n bwysig iawn ein bod yn tracio llwyddiant ym myd polisi iaith, a dwi’n ddiolchgar o gael gweld bod CBB yn defnyddio system gyfrifiadurol i fesur llwyddiant eu gwaith. Mae’r math yma o waith yn ganolog i’n nod o ddyblu defnydd dyddiol o’r Gymraeg.” 

Mae’r rhesymau dros ddefnyddio’r Gymraeg yn amrywio o fusnes i fusnes. Mae’r Gymraeg yn rhan o wasanaeth cwsmer i gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ac yn Unique Selling Point i bobl sydd yn ymweld â Chymru.

Dywedodd José Lourenco, perchennog The Celtic Arms yn Llaneurgain sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth Cymraeg Byd Busnes: “Rydym yn defnyddio Cymraeg oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid lleol. Fel rhywun di-Gymraeg, mae’r gefnogaeth rad ac am ddim gan y prosiect Cymraeg Byd Busnes wedi bod yn wych. Ac mae ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith wrth eu boddau’n gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ac rydym yn cael llawer o sylwadau gwych gan bobl ddi-Gymraeg hefyd.

Dywedodd Philip Thomas, perchennog bragdy cwrw crefft, Bragdy Twt Lol yn Nhrefforest:  “Mae defnyddio'r Gymraeg yn fy musnes wedi gwneud i’r brand sefyll allan oherwydd ein bod yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, roedd defnyddio’r iaith bob amser yn mynd i fod yn rhan naturiol o fy musnes, ond mae yna fantais glir i gael y gwasanaeth rhad ac am ddim fel gwirio negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Byddem yn annog entrepreneuriaid eraill i fanteisio ar hyn, mae'n gwbl amlwg."  

Yn ôl Tîm Cymraeg Byd Busnes: “Rydym fel tîm Cymraeg Byd Busnes yn hynod o falch o gefnogi busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg, ac wrth gwrs trwy hynny cyfrannu at gynyddu’r Gymraeg gweladwy a chlywadwy yn ein cymunedau. 
Mae’n bleser mawr i ni weld y brwdfrydedd a’r ymrwymiad i’r Gymraeg ymhlith cymaint o fusnesau. Ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth mae’r busnesau yn eucael gan eu cwsmeriaid. Ond hoffem weld mwy yn y dyfodol. Byddem wrth ein boddau yn gweld bod pawb sydd yn siarad neu yn dysgu Cymraeg yn cefnogi’r ymdrechion mae’r busnesau yn eu gwneud – boed yn gamau bach neu fawr. 

Mae mwyfwy o Gymry Cymraeg a dysgwyr yn gofyn am wasanaeth Cymraeg yn siopau eu cymunedau. Yn anffodus mae recriwtio staff sydd yn siarad Cymraeg yn her o hyd. Yn  araf deg mae’r neges yn lledaenu bod y gallu i siarad a chyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig ac yn fantais ...” 

I gael gwybod sut i fanteisio ar gymorth rhad ac am ddim gan y prosiect Cymraeg mewn Busnes, ewch i’r wefan: www.cymraeg.llyw.cymru/busnes 

Nodiadau i olygyddion


Yn 2017 lansiodd Llywodraeth Cymru eu prosiect Cymraeg Byd Busnes sy’n cynnig cyngor rhad ac am ddim i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint i ddefnyddio a datblygu’r Gymraeg yn eu busnes. Wrth i’r Gymraeg ddod yn fwy amlwg mewn busnesau, mae’r prosiect yn rhoi’r cyfle i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau - a’r cyfan i gyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050. 

Mae 12 swyddog ledled Cymru yn cefnogi busnesau drwy gynnig cyngor ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnes, nwyddau dwyieithog defnyddiol, gwasanaeth cyfieithu, marchnata datblygiadau'r busnesau gyda’r Gymraeg a chyfeirio at wasanaethau eraill megis gwersi Cymraeg i staff.